• Mynd â’ch Busnes Ar-lein

    Arweiniad Cynhwysfawr i Fusnesau Bach a Chanolig

    Yn y weminar hon, bydd Euron Smith yn addysgu’r canlynol:

    • Diffinio eich Nodau: deall pa mor bwysig yw gosod amcanion cyraeddadwy a chlir ar gyfer eich siwrnai ar-lein
    • Brandio: dysgu sut i greu brand diddorol a fydd yn serennu yn y farchnad ddigidol
    • Datblygu Gwefannau: dysgu’r pethau hanfodol o ran adeiladu gwefannau hawdd eu defnyddio a fydd yn annog eich cwsmeriaid i weithredu
    • Meistroli’r Cyfryngau Cymdeithasol: awgrymiadau ynglŷn â dewis y platfformau iawn, megis Facebook, Instagram, TikTok a mwy, er mwyn creu cynnwys diddorol
    • Strategaethau Marchnata Ar-lein: archwilio gwahanol dactegau’n ymwneud â marchnata ar-lein er mwyn denu a chadw cwsmeriaid
    • Hanfodion Optimeiddio Peiriannau Chwilio: dysgu’r pethau elfennol o ran Optimeiddio Peiriannau Chwilio er mwyn eich gwneud yn fwy gweladwy
    • Dadansoddeg a Threiddgarwch: deall sut i olrhain a dadansoddi eich perfformiad ar-lein
    • Ymgysylltu â Chwsmeriaid: darganfod ffyrdd effeithiol o gysylltu â’ch cwsmeriaid a meithrin ffyddlondeb

    Pam mynychu’r weminar?

    • Gwybodaeth arbenigol: cewch wybodaeth werthfawr gan arbenigwyr yn y diwydiant a chanddynt flynyddoedd o brofiad
    • Awgrymiadau y gallwch eu rhoi ar waith: byddwch yn gadael y weminar gyda chamau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith yn syth
    • Sesiwn ‘Holi ac Ateb’ ryngweithiol: bydd modd i’n harbenigwyr ateb eich cwestiynau’n fyw

    Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein

    Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.

    Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau/hyfforddiant ar gyfer pa bynnag gam rydych chi'n ei wneud wrth ddechrau neu ddatblygu eich busnes. Rydym yn ymdrin â meysydd fel cynllunio busnes, cyllid, marchnata, Adnoddau Dynol, allforio a datblygu cynnyrch.