• Model Cymdeithasol Anabledd

    Mae’r weminar hon yn edrych ar fodel cymdeithasol Anabledd. Mae'r model cymdeithasol anabledd yn ein hannog i ymchwilio i anabledd, nid yn unig fel amhariad ar yr unigolyn ond fel cynnyrch strwythurau, agweddau ac arferion cymdeithasol.

    Byddwn yn mynd i'r afael â’r canlynol:

    • Y gwahaniaeth rhwng y model meddygol a’r model cymdeithasol anabledd.
    • Defnydd o iaith addas i’w defnyddio wrth drafod Pobl Anabl.
    • Sut y gallwch gefnogi staff, cydweithwyr, cwsmeriaid a chleientiaid anabl.
    • Addasiadau rhesymol, beth ydynt, sut y gellir eu gweithredu a’u buddion posibl, nid yn unig i’r unigolyn ond hefyd i’ch busnes.
    • Sut i sicrhau bod eich proses recriwtio yn gwbl gynhwysol.

    Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein

    Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.

    Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau/hyfforddiant ar gyfer pa bynnag gam rydych chi'n ei wneud wrth ddechrau neu ddatblygu eich busnes. Rydym yn ymdrin â meysydd fel cynllunio busnes, cyllid, marchnata, Adnoddau Dynol, allforio a datblygu cynnyrch.