• Rheoli Gwastraff, Ailgylchu a’r Economi Gylchol – Beth mae eich busnes angen ei wybod?

    Mae’r weminar hon yn rhoi diweddariad i chi ar y newidiadau diweddar i’r rheoliadau Rheoli Gwastraff, sy’n rhoi rhwymedigaeth ar fusnesau i ddidoli ffrydiau gwastraff ar gyfer eu casglu a’u hailgylchu. Byddwn yn trafod y cwestiynau pam a sut, yn ogystal â sut mae modd i chi gyflawni cydymffurfiaeth reoleiddiol gyda’ch gwastraff ac ailgylchu.

    Gyda chostau casglu gwastraff yn aml yn ffracsiwn o’r costau gwastraff gwirioneddol (yn nhermau llafur a wastraffwyd, deunyddiau crai, archebion heb eu bodloni, costau ynni etc) byddwn hefyd yn defnyddio’r cyfle hwn i graffu ar le mae gwastraff yn digwydd yn eich busnes a sut mae modd osgoi hyn, a sut y gallai eich busnes elwa ar yr economi gylchol. Mae lleihau gwastraff yn lleihau costau ac allyriadau carbon!

    Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein

    Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.

    Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau/hyfforddiant ar gyfer pa bynnag gam rydych chi'n ei wneud wrth ddechrau neu ddatblygu eich busnes. Rydym yn ymdrin â meysydd fel cynllunio busnes, cyllid, marchnata, Adnoddau Dynol, allforio a datblygu cynnyrch.