Gweminar rheoliadau gwastraff
Mae’r weminar hon yn rhoi diweddariad i chi ar y newidiadau arfaethedig i reoliadau Rheoli Gwastraff, sy’n rhoi rhwymedigaeth ar fusnesau i ddidoli ffrydiau gwastraff ar gyfer eu casglu. Byddwn yn trafod y cwestiynau pam a sut, yn ogystal â sut mae modd i chi gyflawni cydymffurfiaeth. Gyda chostau casglu gwastraff yn aml yn ffracsiwn o’r costau gwastraff gwirioneddol (yn nhermau llafur a wastraffwyd, deunyddiau crai, archebion heb eu bodloni, costau ynni etc) byddwn hefyd yn defnyddio’r cyfle hwn i graffu ar le mae gwastraff yn digwydd yn eich busnes a sut mae modd osgoi hyn.
Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein
Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau/hyfforddiant ar gyfer pa bynnag gam rydych chi'n ei wneud wrth ddechrau neu ddatblygu eich busnes. Rydym yn ymdrin â meysydd fel cynllunio busnes, cyllid, marchnata, Adnoddau Dynol, allforio a datblygu cynnyrch.