• Datblygu eich syniad busnes

    Llawn syniadau, ond ddim yn siŵr sut i’w troi’n fusnes ymarferol?
    Neu a hoffech ddechrau busnes ond ddim yn siŵr beth i’w wneud?
    Dysgwch sut i ddatblygu eich ffordd o feddwl i fod yn rhywbeth a fydd yn gweithio i chi.

    Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein

    Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.

    Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau/hyfforddiant ar gyfer pa bynnag gam rydych chi'n ei wneud wrth ddechrau neu ddatblygu eich busnes. Rydym yn ymdrin â meysydd fel cynllunio busnes, cyllid, marchnata, Adnoddau Dynol, allforio a datblygu cynnyrch.