• Allforio

    Gall allforio drawsnewid eich busnes, gan ei helpu i dyfu, i fod yn fwy cydnerth ac arloesol. Bydd y gyfres fer hon o gyrsiau hyfforddi’n rhoi trosolwg hanfodol i chi ar allforio – o benderfynu a yw eich busnes yn barod i allforio i elfennau penodol o allforio fel dethol marchnadoedd, logisteg, ac Incoterms®.

    Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein

    Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ddatblygu drwy ddysgu ar-lein.

    Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau/hyfforddiant ar gyfer pa bynnag gam rydych chi'n ei wneud wrth ddechrau neu ddatblygu eich busnes. Rydym yn ymdrin â meysydd fel cynllunio busnes, cyllid, marchnata, Adnoddau Dynol, allforio a datblygu cynnyrch.